25/01/2017

British Heart Foundation - Fundraising Group Volunteers


British Heart Foundation are looking for volunteers in Fundraising Groups in Pwllheli, Bala and Tywyn

04/01/2017

Diwrnod Canser y Byd 2017 Casgliadau Gwirfoddoli - Cenedlaethol- 3ydd / 4 Chwefror - Cancer Research UK



Ar ddydd Gwener y 3ydd a Sadwrn 4ydd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr casglu bwced i gefnogi Diwrnod Canser y Byd. Dyma ddiwrnod y daw'r byd at ei gilydd i ddangos ein bod ni'n unedig yn y frwydr yn erbyn canser. Drwy ymuno ar y diwrnod hwn, gall bob person chwarae eu rhan wrth guro canser yn gynt.
 
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Mae angen eich help i wirfoddoli mewn safle casglu yn eich ardal chi! Byddwch yn helpu i ddosbarthu Bandiau Unity am rodd awgrymedig o £2, codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Canser y Byd, a chodi cymaint o arian â phosibl ar gyfer y frwydr yn erbyn canser.
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymchwilydd creadigol cymunedol - GISDA



'Rydym ni yn chwilio am unigolion brwdfrydig i gymryd rhan mewn prosiect arloesol a chreadigol i gofnodi a chasglu atgofion pobl leol i Gaernarfon. Bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i gasglu straeon ac yn trawsnewid yr atgofion i brofiadau i'w arddangos mewn amgueddfa byw. Bydd yr amgueddfa yma yn cael ei gynnal ym Mis Mai 2017.

Wrth dderbyn hyfforddiant gan Iwan Brioc bydd gwirfoddolwyr yn dysgu am sut i greu'r amgueddfa byw neu'r labyrinth synhwyrol. (http://www.therepublicoftheimagination.org/sensory-labyrinth-theatre/).

Bydd hwn yn gyfle i ddod i nabod pobl ac i weithio ar brosiect arloesol ac unigryw yn edrych ar dreftadaeth mewn ffordd hollol wahanol.

Fel rhan o'r hyfforddiant bydd posib mynychu sioe Cathy Come Home, wedi selio ar film Ken Loach,  gan gwmni Theatr Cardboard Citizens ym Manceinion ar Ionawr y 14eg.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com