04/01/2017

Ymchwilydd creadigol cymunedol - GISDA



'Rydym ni yn chwilio am unigolion brwdfrydig i gymryd rhan mewn prosiect arloesol a chreadigol i gofnodi a chasglu atgofion pobl leol i Gaernarfon. Bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i gasglu straeon ac yn trawsnewid yr atgofion i brofiadau i'w arddangos mewn amgueddfa byw. Bydd yr amgueddfa yma yn cael ei gynnal ym Mis Mai 2017.

Wrth dderbyn hyfforddiant gan Iwan Brioc bydd gwirfoddolwyr yn dysgu am sut i greu'r amgueddfa byw neu'r labyrinth synhwyrol. (http://www.therepublicoftheimagination.org/sensory-labyrinth-theatre/).

Bydd hwn yn gyfle i ddod i nabod pobl ac i weithio ar brosiect arloesol ac unigryw yn edrych ar dreftadaeth mewn ffordd hollol wahanol.

Fel rhan o'r hyfforddiant bydd posib mynychu sioe Cathy Come Home, wedi selio ar film Ken Loach,  gan gwmni Theatr Cardboard Citizens ym Manceinion ar Ionawr y 14eg.

Am fanylion pellach, cysylltwch รข Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com